'Pobl ag incwm isel wedi'u taro waethaf gan y pandemig'
Mae Cymru ar fin wynebu argyfwng tai oni bai bod cymorth yn cael ei roi i aelwydydd sydd wedi dioddef yn sgil y pandemig, yn ôl elusen Sefydliad Bevan.
Mae'r gwaith ymchwil newydd yn dangos bod un ym mhob 10 aelwyd yn byw mewn tai anniogel gyda 80,000 aelwyd arall wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i gartref newydd.
Mae hyn er gwaethaf y cymorth sydd wedi cael ei roi gan lywodraethau Cymru a Phrydain yn ystod y pandemig.
Dywedodd Dr Steffan Evans o'r sefydliad wrth Dros Frecwast bod eu hymchwil nhw wedi awgrymu mai pobl sydd ag incwm isel sydd wedi cael eu taro waethaf gan effeithiau'r pandemig.