'Angen i fyfyrwyr o gefn gwlad astudio meddygaeth'

Mae'n hanfodol bod myfyrwyr o ardaloedd gwledig yn astudio meddygaeth, medd Dr Llinos Roberts, meddyg teulu rhan amser sydd hefyd yn gweithio yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe.

Mewn cyfweliad â Gwenfair Griffith, dywed ei bod yn 'gweld â'i llygad ei hun' bod angen recriwtio mwy o feddygon.

Daw ei sylwadau wrth i Gymdeithas Feddygol Prydain ddweud bod angen i Gymru gael strategaeth i fynd i'r afael â phrinder o feddygon teulu.