Clefyd Motor Niwrnon: 'Alli di fyth edrych i'r dyfodol'

Mae teulu gŵr o Gaerfyrddin sy'n byw â Chlefyd Motor Niwron (MND) yn galw am ganolfan ymchwil glinigol i Gymru er mwyn sicrhau tegwch i gleifion.

Mae Bob Gledhill, a gafodd ddiagnosis ym mis Hydref 2020, bellach wrthi'n cwblhau'r her tri chopa Cymru gyda'i deulu a chefnogwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian dros yr achos.

Ar hyn o bryd does gan Gymru ddim canolfan ymchwil bwrpasol i gynnal treialon, ond mae canolfannau o'r fath eisoes yn bodoli yn Lloegr a'r Alban.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod "nifer o dreialon i MND yn digwydd" a'u bod yn "gweithio mewn partneriaeth" gydag asiantaethau i gefnogi unigolion sy'n byw â'r cyflwr.