'Does dim incwm wrth gynnal eisteddfod rithiol'

Mae Cymdeithas Eisteddfodau Cymru'n cynnal cyfarfod rhithiol nos Fawrth i drafod gobeithion a phryderon wrth feddwl am drefnu eisteddfodau a digwyddiadau cymunedol o'r newydd wedi'r pandemig.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae nifer o eisteddfodau'n cael eu gohirio, ac mae sawl digwyddiad yn cael eu cynnal ar-lein.

Mae yna bryder ynghylch goblygiadau hynny ar ddiwylliant a thraddodiad Cymru - ac ar sefyllfa ariannol eisteddfodau bach.

Rhian Davies yw un o drefnwyr Eisteddfod Powys sydd, meddai, wedi bod yn ffodus i sicrhau nawdd i gynnal digwyddiad digidol eleni.