'Gwarth bo' ni methu fforddio tŷ yn ein pentrefi'

Mae Elfed a'i bartner Anwen yn chwilio am dŷ yn ardal Trawsfynydd ers rhyw 10 mis. Mae ganddo saith swydd er mwyn cynilo.

Maen nhw wedi ceisio am dai ond wedi methu, achos erbyn iddyn nhw gael yr arian at ei gilydd mae'r tai wedi'u gwerthu, meddai.

Daw ei sylwadau wrth i gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag ail gartrefi yng Nghymru gael eu beirniadu am fod yn "wan" a "di-gyfeiriad".

Mae newidiadau i drethi lleol a rheolau cynllunio ymysg y newidiadau y mae'r llywodraeth yn eu hystyried i fynd i'r afael â'r mater.

Bydd y llywodraeth yn dewis ardal o Gymru i dreialu'r polisïau newydd mewn ymdrech i "ddod â thegwch yn ôl i'n marchnad dai".