'Llacio cyfyngiadau yn lleihau straen ar staff tafarn'
Bydd llacio cyfyngiadau coronafeirws Cymru yn lleihau'r straen ar fusnesau a staff, yn ôl Catherine Beckett o Dafarn Twnti yn Rhydyclafdy.
Mae disgwyl i Gymru symud i gyfyngiadau lefel sero ar 7 Awst.
Dywedodd Ms Beckett bod cynnig gwasanaeth wrth y bwrdd i gwsmeriaid wedi golygu gorfod cyflogi mwy o staff, gan roi straen ar y busnes.