Beth all bobl wneud i gadw'n ddiogel yn y gwres?

Wedi i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd am wres eithafol am y tro cyntaf yn y DU ddydd Llun, beth all bobl wneud i gadw'n ddiogel yn yr haul?

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth dywedodd Dr Rhian Williams bod angen defnyddio "bach o synnwyr cyffredin".

"Y peth pwysig yw osgoi aros mas o dan olau'r haul am gyfnod o fwy na falle 20 munud. Yn ogystal, os bo' ni mas yn yr haul, i ddefnyddio eli haul, neu gysgod neu het yn ddigon aml," meddai.

"Mae angen i ni fod yn yfed o leiaf tri litr o ddŵr, ac yn 'neud yn siŵr bod 'da ni ddŵr ar bwys y gwely, a falle ffan i neud yn siŵr bod ni'n cadw'r tymheredd lawr."

Mae disgwyl i'r rhybudd oren fod mewn grym ar draws de Cymru tan 23:59 ddydd Iau.