''Da ni'm yn gwybod a fydd gennym ni ddŵr'
Mae pibellau dŵr yng Ngwyddelwern, Sir Ddinbych wedi byrstio naw gwaith ers mis Ebrill gan adael y trigolion heb gyflenwad.
Bellach mae'r trigolion wedi cael llond bol er i gwmni Dŵr Cymru ymddiheuro gan ddweud eu bod yn ceisio datrys y broblem "gymhleth".
Ond i rai o bobl y pentref dydy hynny ddim yn ddigon.
Maen nhw eisiau gwybod sut maen nhw am fynd i'r afael â'r broblem unwaith ac am byth.