Golygfeydd 'afiach' o sbwriel ger Llyn Padarn, Llanberis
Mae dynes a ffilmiodd olygfeydd o sbwriel wedi ei wasgaru ger Llyn Padarn yn Llanberis yn dweud mai dyma'r esiampl waethaf o lanast mae hi wedi'i weld yno.
Roedd Cara Louise Jones wedi mynd i'r llyn nos Iau gyda'i theulu i nofio, ac wrth adael fe ddaethon nhw ar draws y sbwriel ger un o'r meysydd parcio.
Fe gymerodd hi dros awr i Cara a llond llaw o wirfoddolwyr eraill i glirio'r llanast i gyd, a hynny er fod yna finiau cyfagos ble gallai pobl fod wedi gadael eu gwastraff.
Ymhlith y pethau gafodd eu gadael ar ôl roedd poteli gwydr, bocsys cardbord, bagiau bwyd, ac hyd yn oed sanau a dillad isaf.