Cau cigydd a lladd-dy Machynlleth wedi 60 mlynedd

Fe fydd yn ddiwedd cyfnod ym Machynlleth ddydd Sadwrn pan fydd siop gigydd ola'r dref a'r lladd-dy lleol yn cau eu drysau am y tro olaf.Mae Wil Lloyd Williams a'i deulu wedi bod â siop gigydd yno ers dros 60 o flynyddoedd, ond mae'n bryd gwneud amser nawr, meddai, ar gyfer pethau eraill yn ei fywyd.Gyda ffermwyr ardal Dyffryn Dyfi sydd wedi dibynnu ar y lladd-dy yn mynd i weld ei golli, mae undeb NFU Cymru nawr yn galw am fwy o gefnogaeth i ladd-dai lleol.