'Angen bod yn ofalus' os fydd llai o gyfyngiadau

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gadarnhau ddydd Gwener os fydd mwyafrif y cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu llacio o ddydd Sadwrn.

Mae prif swyddog meddygol Cymru yn galw ar bobl i ymddwyn mewn ffordd "synhwyrol" os bydd mwyafrif y rheolau presennol yn cael eu llacio o 7 Awst ymlaen.

Dywedodd Dr Frank Atherton fod cyfrifoldeb yn symud ymhellach tuag at ymddygiad personol pobl, ac i ffwrdd o reolau'r llywodraeth.

Yn ôl Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru mae 'na le i ymfalchïo bod y sefyllfa yng Nghymru wedi cyrraedd pwynt ble mae modd ystyried caniatáu mwy o ryddid.

Ond mae'n rhybuddio bod angen cofio'r gwersi sydd wedi'u dysgu am y feirws ers dechrau'r pandemig a "peidio taflu popeth mas wrth symud i sefyllfa newydd".