Ap monitro'r galon 'wedi bod yn fendith mawr i mi'
Mae cleifion y galon yn y gogledd yn rhan o gynllun peilot sy'n golygu bod arbenigwyr yn gallu monitro eu cyflwr dros ffôn symudol.
Maen nhw'n cofnodi symptomau ac arwyddion hanfodol fel pwysau a phwysedd gwaed bob dydd ar ap.
Mae clinigwyr wedyn yn gallu yn rhoi adborth ar ôl adolygu'r wybodaeth a threfnu ymgynghoriadau fideo, sy'n helpu osgoi teithiau i glinigau neu ysbytai.
Un o'r cleifion sy'n rhan o'r arbrawf yw Evan Dobson o'r Bala, sydd wedi arfer gorfod teithio i apwyntiadau yn Ysbytai Dolgellau, Tywyn ac Alltwen.