TGAU: Mwy o fwlch rhwng y difreintiedig a'u cyfoedion

Mae'r bwlch canlyniadau TGAU uchaf rhwng plant o gefndiroedd difreintiedig a'u cyd-ddisgyblion wedi cynyddu, yn ôl ffigyrau.

Cafodd mwy o ddisgyblion yng Nghymru'r graddau uchaf eleni gyda 28.7% o'r graddau yn A neu A* - sy'n uwch na'r ddwy flynedd flaenorol.

Ond dim ond dros hanner (52%) o ddisgyblion a oedd yn gymwys ar gyfer prydau am ddim wnaeth dderbyn graddau rhwng A* a C, o'i gymharu â 79.3% o ddisgyblion nad oedd yn gymwys.

Yn ôl Dr Steffan Evans o'r sefydliad Bevan, mae yna "sawl ffactor" sydd wedi cyfrannu at dwf yn y bwlch rhwng y disgyblion mwyaf difreintiedig a'r lleiaf difreintiedig.

Dywedodd fod y rhain yn cynnwys diffyg technoleg yn y cartref i allu dysgu ar-lein; mwy o bobl yn byw mewn un cartref gyda'i gilydd a'n gorfod rhannu'r dechnoleg sydd ar gael i wneud eu gwaith ysgol; a mwy o blant o ardaloedd difreintiedig yn cael eu danfon adref oherwydd achosion o Covid yn eu hardal.