'Fi isie aros yng Nghymru, fi'n hoffi Cymru lot'

Yn dilyn buddugoliaeth y Taliban wrth feddiannu Afghanistan mae miloedd o bobl wedi bod yn ceisio ffoi o'r wlad, gyda disgwyl y bydd nifer ohonynt yn dod i Brydain dros y misoedd nesaf.

Dyw'r sefyllfa ddim yn annhebyg i un y teulu Alchikh, wnaeth ddianc o Syria yn 2013 yn dilyn y rhyfel yno.

Bellach maen nhw wedi ymgartrefu yn Aberteifi ac mae'r plant, Sara a Shadi, yn mwynhau eu bywyd newydd yng Nghymru.

Dywedodd Sara y byddai ffoaduriaid eraill sydd yn dod yma yn mwynhau gweld y môr a'r gwyrddni - a'i bod hi yn bersonol yn hoffi "pan mae'n bwrw glaw".