Undeb USDAW yn dweud bod eu haelodau wedi profi camdriniaeth ar lafar yn ystod y pandemig.

Mae gweithwyr siopau yng Nghymru wedi bod yn siarad am eu pryderon wrth i lawer ohonyn nhw brofi camdriniaeth gan gwsmeriaid yn ystod y pandemig.

Yn ôl Ffion Verburg - sy'n berchen ar siop Llandeg yn Llandegfan ar Ynys Môn - mae rheolau Covid-19 yn cymhlethu pethau i weithwyr siop.