Angharad James: 'Ni'n cael ein stopio yn y stryd'

Dywed un o chwaraewyr pêl-droed amlycaf Cymru ei bod yn "dysgu pob dydd" ers symud i chwarae yn yr Unol Daleithiau.

Fe symudodd Angharad James - sydd wedi ennill 85 cap dros ei gwlad - i North Carolina Courage yn gynharach eleni.

Mae'n dweud fod mwy o bobl yn gwylio gêm y merched na'r dynion yn America a'i bod yn cael ei stopio gan gefnogwyr ar y stryd yn aml.

Bu Angharad James yn siarad gydag Owain Llŷr.