Dathlu 25 mlynedd o glwb 'gallu cymysg' Llanelli Warriors

Mae tîm rygbi'r Llanelli Warriors yn dathlu pen-blwydd arbennig eleni wrth i'r clwb nodi 25 mlynedd o fodolaeth.Yn y cyfnod hwnnw mae'r tîm 'gallu cymysg' wedi cynnig cyfleoedd i ystod eang o chwaraewyr, gan gynnwys rhai ag anableddau - anableddau dysgu yn bennaf.Yn ôl yr hyfforddwr a'r cadeirydd, Gwilym Davies, mae bod yn rhan o'r clwb wedi bod yn wych o ran magu hyder a gwella ffitrwydd llawer o'r chwaraewyr.Mae hefyd yn gyfle i daclo rhai rhagfarnau ynglŷn â phobl ag anableddau, a dangos bod lle iddyn nhw fwynhau a chystadlu yn y byd rygbi fel pawb arall.