Gobaith mawr gwibiwr ifanc 'sy'n un i gadw golwg arno'
Wrth i'r athletwyr gystadlu yng Ngemau Paralympaidd 2020 yn Tokyo, mae gwibiwr ifanc o Gaerdydd yn breuddwydio am gynrychioli Prydain ar y lefel uchaf yn y dyfodol.
Mae Tomi Roberts-Jones, sy'n rhedeg rasys 100 medr, yn byw gyda pharlys yr ymennydd sy'n effeithio ar symudedd ochr dde ei gorff.
Ond ers cymryd rhan mewn digwyddiad agored bum mlynedd yn ôl, mae'r athletwr 15 oed o Gaerdydd wedi cynrychioli Cymru yn y Bencampwriaeth Athletau Iau Genedlaethol ac mae ar fin cystadlu yng Ngemau Ysgolion 2021.
Dywed ei hyfforddwr ei fod "yn bendant yn rhywun i gadw golwg arno".
Mae Tomi eisoes wedi ennill medalau aur, ond mae ganddo obeithion mawr o fod ar y podiwm pan fydd Los Angeles yn llwyfannu Gemau Paralympaidd 2028.