Dafydd Meredydd: 'Sgôp i ddatblygu Radio Cymru 2'

Mae golygydd newydd BBC Radio Cymru, Dafydd Meredydd wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd Radio Cymru 2 yn ehangu yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth yn cynnig ychydig oriau yn y bore.

Dywedodd mai ei ddymuniad fyddai cerdded i fewn i siop yng Nghymru a chlywed "radio Cymraeg yn y cefndir".

"Mae ''na gamau i fynd i hynny ddigwydd ond dwi'n meddwl mae 'na gyfle yna ac mae 'na gyfle i gyrraedd cynulleidfa wahanol," meddai.

Cafodd Mr Meredydd ei benodi yn Bennaeth Gwasanaethau Cymraeg y BBC fis diwethaf.

Bydd yn olygydd BBC Radio Cymru a BBC Radio Cymru 2 ac yn goruchwylio cylchgrawn ar-lein BBC Cymru Fyw.