'Mae neges YesCymru yn bwysicach nawr nag erioed'

Dywed cyn-gadeirydd YesCymru bod yn rhaid i'r mudiad weithredu ar frys er mwyn sicrhau na fydd "Cymru ar ei hôl hi" petai'r Alban yn datgan annibyniaeth.

Ym mis Gorffennaf cyhoeddodd Siôn Jobbins nad oedd bellach am fod yn gadeirydd y mudiad annibyniaeth oherwydd "pwysau'r rôl".

Wrth gael ei holi ar raglen Bethan Rhys Roberts fore Sul dywed Mr Jobbins hefyd ei bod hi'n amser ffurfio pwyllgor canolog.

"Mae neges YesCymru yn bwysicach nawr nag erioed," meddai.