Eluned Morgan: 'Posib iawn' fydd pethau'n gwaethygu cyn gwella
Wrth ymateb i'r ffigyrau amseroedd aros, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan bod y GIG yn wynebu'r "gaeaf anoddaf y'n ni byth wedi gweld".
Roedd yn cyfaddef hefyd ei bod "yn ofni" yr hyn sydd i ddod, gan ddweud y gallai pethau fynd yn waeth cyn eu bod yn gwella.
"Dy'n ni ddim lan i 100% o operations sydd wedi'u cynllunio, a tan i ni gyrraedd hynny ni'n gwybod y bydd y niferoedd yn dal i gynyddu," meddai.
Gohebydd iechyd BBC Cymru, Owain Clarke fu'n ei holi.