Syndrom Tourette's: 'Fi moyn help, fi moyn solution'
Mae yna alwadau ar Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n byw gyda syndrom Tourette's.
Fe ddatblygodd Megan Jones, 17, wneud ticiau - symudiadau anwirfoddol - y llynedd, ond mae'n dweud nad yw hi wedi gallu dod o hyd i lawer o wybodaeth na chymorth ers datblygu'r cyflwr.
Ar hyn o bryd, dim ond un arbenigwr syndrom Tourette's sydd yng Nghymru, a dydyn nhw ddim yn gweld plant, yn ôl gwefan Tourette's Action.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod wedi "ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn sydd â chyflwr niwro-ddatblygiadol, yn cynnwys syndrom Tourette's, yn gallu cael mynediad i'r gwasanaethau a'r gofal y maen nhw eu hangen".