Covid: 'Dan ni 'di bod yn eitha' agos at orfod cau ysgol'

Mae arweinydd addysg lleol yn rhybuddio bod ysgolion mewn sefyllfa "fregus iawn" oherwydd niferoedd uchel o achosion Covid ymhlith disgyblion a staff.

Sir Ddinbych yw'r ardal ddiweddaraf i ofyn i ysgolion gryfhau mesurau atal y feirws, fel gorchuddio'r wyneb a chadw pellter.

Yn ôl y cynghorydd sydd â chyfrifoldeb am addysg yn y sir, Huw Hilditch-Roberts mae problemau staffio'n golygu bod rhai ysgolion ar eu gliniau.

Dywedodd hefyd ei fod yn credu fod y broblem yn waeth mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.