'Dan ni'n gorfod gwastraffu amser ar waith admin'
Mae perchennog siop teganau ar-lein yng Ngwynedd yn dweud bod Brexit wedi gwneud hi'n anoddach i lenwi archebion ar gyfer Nadolig.
Dywedodd Jolene Barton, sy'n rhedeg Babi Pur ym Mhorthmadog, fe fydd "prinder o rai pethau" o flaen y cyfnod llawen eleni.
Mae cyfyngiadau masnach wedi arafu'r cyflenwad o nwyddau i'r busnes a hefyd wedi cynyddu faint o waith papur sy'n rhaid i staff ei wneud.
Ond ychwanegodd Ms Barton na ddylai pobl wylltio a "fydd rhaid jyst dewis rhywbeth arall".
Mae nifer o ofnau wedi codi dros brinder nwyddau cyn y Nadolig eleni, gan gynnwys pryderon dros , dolen allanol a gyrwyr loriau.