'Mewn sioc am flwyddyn ac yn dal i grynu ar adege'
Mae teuluoedd sydd wedi colli plant drwy hunanladdiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth cefnogi.
Mae Llywodraeth Yr Alban newydd ariannu cynllun peilot a fydd yn rhoi cefnogaeth i deuluoedd am ddwy flynedd.
Dywed teuluoedd bod dirfawr alw am wasanaeth o'r fath ac nad yw nifer yn cael eu cyfeirio at wasanaethau cefnogi priodol.
Fe gollodd Wynne a Geraint Davies o Bontardawe eu merch Angharad, 21, yn 2014.