''Dan ni ar y ffôn am ddwyawr, dair i drio cael profion'
Yn ôl Steven Flynn, sy'n rhedeg Ysgol Yrru Carmel yng Nghaernarfon, mae ganddo ddegau o yrwyr sy'n barod i weithio, ond dydyn nhw ddim yn gallu oherwydd eu bod nhw'n disgwyl am eu prawf.
Mae o'n dweud hefyd fod y broses o archebu prawf ar-lein weithiau yn amhosib, ac yn disgrifio'r profiad o orfod aros am oriau i archebu dros y ffôn yn "dorcalonnus".
Dywedodd y DVSA (Driver & Vehicle Standards Agency) eu bod nhw yn "mynd i'r afael â'r broblem gan gynyddu nifer y gyrwyr lori sy'n cael eu harholi".