Yr entrepreneur ifanc sy'n coginio i sêr chwaraeon

Dywed Banc Datblygu Cymru eu bod erioed wedi derbyn gymaint o geisiadau am gymorth i sefydlu busnesau nag yn 2020, ac mae'r duedd yna'n parhau eleni.

Penderfynodd llawer o bobl i fentro oherwydd newid yn eu hamgylchiadau, a hynny yn aml mewn meysydd yn ymwneud â cheisio byw bywyd iachach.

Un ohonyn nhw yw Ioan Dillon a brynodd fusnes bwyd maethlon mewn campfa yn Llanelli pan oedd ond yn 18 oed ac yn dal yn y chweched dosbarth.