Stori Tamara: 'Nes i ddeall bo' pobl yn fy ngharu'
Mae dynes ifanc o'r gogledd wnaeth geisio lladd ei hun pan yn ei harddegau hwyr yn tanlinellu'r neges bod cymorth ar gael i bobl sydd mewn trallod.
Rhannodd Tamara Louise Roberts ei phrofiad ar drothwy Diwrnod Iechyd Meddwl Y Byd, sy'n cael ei gynnal bob blwyddyn ar 10 Hydref er mwyn codi ymwybyddiaeth.
Yn ôl Samariaid Cymru mae rhwng 300 a 350 o bobl yn lladd eu hunain bob blwyddyn yng Nghymru.