'Dim dyfodol i bobl ifanc' achos ail gartrefi

Bydd cynghorwyr yn Sir Benfro'n cynnal pleidlais ddydd Iau ynghylch argymhelliad aelodau'r cabinet i gynyddu treth y cyngor ychwanegol ar ail gartrefi o 50% i 100%.

Un sy'n gobeithio y bydd yr argymhelliad yn cael sêl bendith yw Hedd Harries o Fwlch-y-groes, sy'n cael trafferth dod o hyd i dŷ y gallai fforddio'i brynu yn ei ardal leol.

Mae'n dweud ei fod yn teimlo anobaith ar hyn o bryd ynghylch sefyllfa'r Gymraeg, yn sgil effaith ail gartrefi.