Profiad merch o'r Wyddgrug o frwydro Hodgkin Lymphoma

Ddydd Mercher fe ddatgelwyd bod chwaraewr pêl-droed Cymru a Bournemouth, David Brooks, wedi derbyn diagnosis o ganser Hodgkin Lymphoma.

Mae'n fath o ganser sy'n effeithio ar y gwaed, ac mae'n fwyaf cyffredin ymysg pobl ifanc.

Fe gafodd Grace Parry o'r Wyddgrug ddiagnosis tebyg yn Ionawr 2019.

Mae hi bellach yn glir o'r clefyd, ac wedi bod yn siarad am ei phrofiad wrth ddod drwyddo.

Roedd hi'n cyfaddef fod y driniaeth yn anodd, ond yn dweud mai'r bobl y gwnaeth hi gyfarfod yn y cyfnod yna wnaeth ei chynorthwyo fwyaf ar y daith.