Sara a Ffion: Yr efeilliaid yng ngharfan rygbi 13 Cymru

Dechreuodd Sara a Ffion Jones ymarfer gyda charfan rygbi 13 Cymru yn ystod y cyfnod clo - a nawr fe allen nhw gynrychioli eu gwlad gyda'i gilydd.

Mae Sara eisoes wedi ennill ei chap cyntaf dros y tîm, a hynny yn erbyn Lloegr yn gynharach eleni.

Nawr mae'r efeilliaid o'r Hendy yn gobeithio bod ar y cae gyda'i gilydd yn erbyn Iwerddon dros y penwythnos, wrth i Ffion hefyd anelu am ymddangosiad cyntaf.