Rhybudd: Peidiwch cael eich dal gan y llanw
Mae dynes o'r gogledd yn rhybuddio pobl i beidio "anwybyddu cyflymder y dŵr" ar ôl iddi gael ei dal gan y llanw.
Roedd yn rhaid i Susan Beetlestone gael ei hachub wedi i'r môr ei hamgylchynu ar Draeth Barkby ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych.
Yn ôl yr RNLI, mae un o bob deg galwad yng Nghymru yn ymwneud â phobl sydd yn sownd achos y llanw.
"Mae 10% o holl alwadau'r RNLI yng Nghymru yn ymwneud â phobl yn cael eu dal gan y llanw," meddai Vinny Jones, un o griw RNLI Y Rhyl a achubodd Susan Beetlestone.
"Felly mae'n bwysig iawn, os 'dach chi'n mynd i lan y môr, i adnabod yr hyn sydd o'ch cwmpas."