Ceir trydan: 'Gorddibynnu ar geir petrol a disel'

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y byddan nhw'n buddsoddi £620m mewn grantiau ar gyfer ceir trydan a phwyntiau gwefru stryd fel rhan o'u cynllun diweddaraf i symud tuag at fod yn economi carbon-sero.

Ond mae ardaloedd gwledig yng ngogledd Cymru yn barod wedi bod yn arbrofi gyda defnyddio ceir trydan o fewn eu cymunedau.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae cynllun Arloesi Gwynedd Wledig wedi bod yn cydlynu llogi dau gar i gymunedau Bethesda, Abergynolwyn, Llanaelhaearn a Phenygroes.

Mae'r ceir wedi cael eu defnyddio am amryw o bethau megis danfon presgripsiynau i bobl fregus a thywys pobl i'r gwaith.

Dywedodd Rhys Gwilym, cydlynydd y cynllun bod y "prinder petrol diweddar wedi dangos faint 'da ni yn dibynnu ar danwydd fatha petrol a disel".

Ychwanegodd fod pobl "yn dechrau newid eu meddylfryd ac yn dechrau cysidro ceir trydan fatha eu hopsiwn nhw o ran car".