Athrawon yn gweithio 'tu hwnt i'r hyn ddylen nhw 'neud'
Mae penaethiaid ysgolion ac undebau'r athrawon wedi rhybuddio fod prinder athrawon cyflenwi yn rhoi pwysau enbyd ar ysgolion.
Gyda chynifer o athrawon yn absennol o'r gwaith, mae dod o hyd i athrawon cyflenwi i lenwi'r bwlch yn heriol tu hwnt.
Ychwanegodd Carolyn Rahman o gwmni Equal Education Partners, sy'n darparu athrawon cyflenwi, eu bod yn "brysur ofnadw'".
"Gallen i fod yng Nghaerdydd un diwrnod, lawr yn Sir Benfro diwrnod ar ôl hynny ac yna Ceredigion," meddai.
Yn ôl Rebecca Williams o undeb athrawon UCAC mae'r "sefyllfa mor argyfyngus" fel bod angen edrych i weld ble mae athrawon cymwys ar gael yn y system yn ehangach - fel arolygwyr Estyn neu weithwyr gwasanaeth addysg Consortia.