'Consyrn teg' ynghylch newid rheolau cymorth i farw

Fe fydd Tŷ'r Arglwyddi yn ystyried newid rheolau i helpu pobl gyda salwch terfynol i ddod a'u bywydau i ben.

O dan amodau'r mesur dim ond cleifion sydd a'r gallu meddyliol llawn ac sydd ddim yn debygol o fyw yn hirach na chwe mis fyddai'n gymwys i wneud cais i gael cymorth i farw.

Byddai hefyd rhaid i ddau feddyg annibynnol a barnwr o'r Uchel Lys ddyfarnu bod y claf wedi gwneud y penderfyniad o'i wirfodd.

Mae yna wrthwynebiad cryf i'r ddeddfwriaeth ac mae pob ymgais blaenorol i gyflwyno deddfau tebyg wedi methu.

Wrth drafod ar Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Yr Athro Gwynedd Parry o Brifysgol Abertawe bod yna "gonsyrn teg" ynglŷn â'r mesur.