Carwyn Eckley yn cael gwybod ei fod yn brifardd
Dyma'r foment y cafodd Carwyn Eckley wybod mai ef oedd enillydd y Gadair Eisteddfod yr Urdd 2020-21.
Mae'r bardd ifanc wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair deirgwaith yn y gorffennol.
Dywedodd y beirniaid fod gwaith Carwyn - gyda'r thema tlodi yn ganolog - yn "gerdd grefftus i'n cywilyddio".
Matthew Tucker o Bontarddulais ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, a Caryl Bryn Hughes o Borth Amlwch, Ynys Môn yn drydydd.