Atal dweud: Angen mwy o gynrychiolaeth yn y cyfryngau
Rhaid gwella'r gynrychiolaeth o atal dweud yn y cyfryngau, yn ôl un sydd wedi byw â'r cyflwr trwy gydol ei fywyd.
Dywedodd Arwel Richards mai "punchline" oedd atal dweud ar y teledu pan oedd yn blentyn.
Siaradodd Mr Richards gyda Dros Frecwast ar ddiwrnod rhyngwladol ymwybyddiaeth atal dweud am yr angen i normaleiddio'r cyflwr.
Mae'r cyflwr yn effeithio ar 3% o bobl.
Mae deiseb gan gymdeithas atal dweud yn galw am ddiwedd i "absenoldeb atal dweud" yn y cyfryngau.
Dywedodd Mr Richards fod atal dweud wedi bod ganddo trwy gydol ei fywyd, a'i fod yn gweithio gyda STAMMA i ddangos bod "cymuned ar gael" i blant sydd â'r cyflwr.