Mwy o anifeiliaid strae 'ffug' ar ein strydoedd

Mae'r pandemig wedi arwain at gynnydd "digynsail" yn y nifer o 'gŵn coll ffug', lle mae pobl brynodd cŵn yn ystod y cyfnod clo yn esgus eu bod yn gŵn coll er mwyn cael gwared ohonynt.

Wrth i gŵn coll ffug lenwi canolfannau achub, mae gweithwyr yn poeni bod cŵn coll go iawn yn gorfod cael eu rhoi i lawr.

Mae rhai perchnogion yn ceisio gwerthu'r cŵn ar wefannau fel Gumtree rhai ddiwrnodau cyn eu cymryd at ganolfan achub fel cŵn coll.

Dywedodd Meg Williams, Rheolwr Datblygiad Menter yn Hope Rescue ym Mhontyclun: "Mae'r problemau yn mynd i barhau. Dydy pawb ddim yn dewis y ci cywir i'w cartref nhw."