Profion gyrru yn y Gymraeg yn 'ofyn arferol, nid arbennig'
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud fod siaradwyr Cymraeg yn wynebu "anghyfiawnder" os ydyn nhw am sefyll eu prawf gyrru yn yr iaith.
Dywedodd Aled Roberts ar Dros Frecwast fore Mercher fod yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn gweithredu'n groes i'w ymrwymiad i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.
Yn ei adroddiad dywedodd y Comisiynydd fod yr asiantaeth wedi methu ar dri mater:
Mae profion gyrru Cymraeg deirgwaith yn fwy tebygol o gael eu canslo na rhai Saesneg;
Mae'n rhaid disgwyl pump i chwe wythnos yn hirach er mwyn sefyll prawf gyrru ymarferol yn y Gymraeg;
Os am wneud cais i sefyll prawf gyrru ymarferol Cymraeg, mae'n rhaid nodi ar y wefan bod gennych chi "ofynion arbennig".
Dywedodd y DVSA ei bod "eisoes wedi cytuno i gynnal archwiliadau mewnol rheolaidd ar ein cynllun Cymraeg".