Llogi dillad i herio 'crisis' amgylcheddol y byd ffasiwn

Ffasiwn ydy'r trydydd diwydiant cynhyrchu mwyaf yn y byd, ac yn ôl rhai amcangyfrifon mae'n gyfrifol am hyd at 10% o allyriadau'r byd.

Wrth i'r sylw droi fwy-fwy at effeithiau newid hinsawdd, mae rhai busnesau o Gymru yn ceisio lleihau effaith y diwydiant ar yr amgylchedd.

Mae 'ffasiwn cyflym', lle mae pobl yn prynu dillad rhad a'u gwisgo unwaith neu ddwy cyn eu taflu yn gyfrannwr mawr tuag at gynhyrchu nwyon tŷ gwydr, a llygredd aer a dŵr wrth gynhyrchu lefelau niweidiol o wastraff.

I geisio arafu'r arfer o daflu dillad, mae Tegan Turnbull a Rhi Thomas, y ddwy yn 23 oed, wedi sefydlu cwmni bychan sy'n hurio dillad yn ne Cymru drwy Instagram.