Carbon sero net: 'Adeiladau hŷn hefyd â rhan i'w chwarae'
Rhaid i bob ysgol neu goleg newydd yng Nghymru fod yn garbon sero net o Ionawr 2022, yn ôl y Gweinidog Addysg.
Fe fydd yn rhaid i waith adnewyddu mawr ac estyniadau, yn ogystal ag adeiladau newydd sbon, gyrraedd y safonau sy'n gofyn am lefel uchel o effeithlonrwydd ynni.
Dywedodd Jeremy Miles y byddai'n helpu i daclo newid hinsawdd, ond mae'n cydnabod bod heriau wrth wella adeiladau hŷn ysgolion a cholegau Cymru.
"Mae sialensiau yn sgil hynny, ond rydyn ni wrthi gyda'n partneriaid llywodraeth leol yn edrych ar y stad ac yn gweithio allan beth sydd angen gwneud er mwyn sicrhau eu bod nhw hefyd yn gallu cyfrannu tuag at y siwrne," meddai.