Cytundebau proffesiynol i ferched yn 'newyddion arbennig'

Bydd chwaraewyr benywaidd yn cael cytundebau proffesiynol gan Undeb Rygbi Cymru am y tro cyntaf erioed.

Erbyn diwedd y flwyddyn bydd 25 o ferched sy'n chwarae'n rhyngwladol yn cael cytundeb 12 mis - bydd 10 o'r cytundebau yn rhai proffesiynol a 15 yn gytundebau cynnal a fydd yn talu llai.

Yn ogystal bydd chwaraewyr yn cael ffioedd hyfforddi a thâl am chwarae mewn gemau. Bydd disgwyl i chwaraewyr gwrdd â safonau penodol.

Dywedodd y capten Siwan Lillicrap fod y datblygiad yn "newyddion arbennig", a'i fod wedi bod yn hwb i'r garfan cyn gemau'r hydref.