Argyfwng Tai: Cynhadledd i drafod tai gwyliau
Bydd cynhadledd yn cael ei chynnal ddydd Gwener i drafod yr argyfwng tai mewn ardaloedd gwledig sydd, yn ôl un o'r trefnwyr, wedi gwaethygu yn ystod y pandemig.
Yn siarad gyda Dros Frecwast, dywedodd Keith Henson fod yr argyfwng wedi "cyflymu" ers y cyfnod clo.
Dywedodd fod cynnydd yn nifer y bobl sy'n gwerthu eu tai neu eu troi yn llety Airbnb wedi codi prisiau yn Ngheredigion.
Rhybuddiodd am yr effaith ar gymunedau lleol, gan gynnwys pobl ifanc na fydd yn medru prynu eu tŷ cyntaf yn eu cymuned.