'Angen ymddiheuriad am fygwth dim prydau ysgol'
Mae disgyblion mewn ysgol yng Ngwynedd wedi cael gwybod na fyddan nhw'n cael cinio ysgol os oes ganddyn nhw fwy na cheiniog o ddyledion.
Mewn llythyr at rieni, dywedodd pennaeth Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes eu bod wedi gwneud y penderfyniad oherwydd diffyg yng nghyllideb cinio'r ysgol.
Mae'r cogydd yn yr ysgol wedi cael cyfarwyddyd "i beidio rhoi bwyd i unrhyw blentyn" oni bai bod y dyledion wedi'u clirio.
Dywedodd Cyngor Gwynedd y dylai unrhyw un sy'n "cael trafferthion" talu am ginio ysgol i gysylltu gyda nhw.
Ond mae un o rieni'r ysgol, Darren Owen, yn credu bod geiriad y llythyr yn annerbyniol, ac mae'n credu bod angen ymddiheuriad.