Sut mae byw bywyd yn fwy gwyrdd fel teulu?

Wrth i gynhadledd COP26 yn Glasgow ddod i ben, bydd nifer ohonom wedi meddwl am sut allwn ni fyw bywyd mwy gwyrdd.

Ond mae un teulu o Sir Ddinbych eisoes wedi bod yn ceisio lleihau eu hôl-troed carbon am flynyddoedd.

Yn ôl Bryn Davies, genedigaeth ei blant sbardunodd y penderfyniad i fyw'n wyrddach.

"Ers i'r plant fod yn fach 'da ni 'di bod yn ymwybodol o'r angen i leihau gwastraff a lleihau food miles," meddai Mr Davies wrth Newyddion S4C.

Ychwanegodd fod byw mewn ffordd sy'n fwy cyfeillgar i'r amgylchedd wedi dod yn haws dros y blynyddoedd: "Ychydig o flynyddoedd yn ôl oeddan ni'n gorfod mynd weithiau mor bell â Manceinion i brynu pethau di-blastig.

"Mae o'n lot haws... mae o'n teimlo fel bod o'n symudiad sy'n tyfu ac mae hynny'n exciting."