Deddf ail gartrefi yn 'fwriadol amwys'

Mae ymgyrchydd amlwg wedi cwestiynu pa mor effeithiol ydy deddf sydd wedi'i llunio i warchod cymunedau rhag rhai o broblemau ail gartrefi.

Roedd yn ymateb i sylwadau comisiynydd a ddywedodd y dylid defnyddio Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol i "fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn".

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe wedi ysgrifennu at y prif weinidog ac at y gweinidog tai, i "godi'r pryderon rwy'n eu clywed gan gymunedau ac i alw am weithredu ar frys".

Ond dywed Rhys Tudur, sy'n gadeirydd Cyngor Tref Nefyn, mai "deddf ddyheadol yn unig ydy hi, deddf gyffredinol, ac mae'n fwriadol amwys".

"Does 'na ddim byd oddi fewn iddi sy'n fecanwaith allwch chi ddefnyddio i ddwyn awdurdodau lleol neu lywodraeth i gyfrif petai nhw ddim yn gweithredu yn unol â'r nodau o fewn y ddeddf," meddai ar Dros Frecwast.

Mae ymgyrchwyr yn ystyried camau cyfreithiol am nad yw gweithwyr allweddol lleol yn gallu fforddio prynu tai o fewn eu milltir sgwâr.