Pryder am yr oedi wrth roi trydydd brechlyn i bobl y gogledd

Yn ôl cadeirydd pwyllgor meddygon teulu y BMA, mae gostyngiad yn nifer y staff meddygol yn y gogledd sydd ar gael i roi brechlyn Covid yn golygu "problemau" wrth sicrhau fod pobl yn cael eu trydydd brechiad.

Dywedodd Dr Phil White ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fod y brechlyn Pfizer, sy'n cael ei roi i'r rhan fwyaf y tro yma, hefyd yn fwy trafferthus i'w ddosbarthu nag un AstraZeneca gynt, ac felly'n cyfrannu at yr arafwch.