Morgan: Pasys Covid yn 'ffordd bosib o gadw llefydd ar agor'
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd y gweinidog iechyd Eluned Morgan fod pasys Covid yn "ffordd bosib" o gadw llefydd ar agor.
Gwnaeth ei sylwadau wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi na fydd unrhyw newidiadau i reolau'r coronafeirws yn ystod y tair wythnos nesaf yn dilyn yr adolygiad diweddaraf.
"Doedd dim angen cyflwyno cyfyngiadau y tro yma ond wrth gwrs fydden ni'n cadw golwg ar y sefyllfa," meddai Ms Morgan.
"Mae tua 9% o welyau yn ein hysbytai ni wedi llenwi gyda pobl gyda Covid," meddai, gan ychwanegu bod y cyfraddau heintio wedi gostwng yn y tair wythnos ers yr adolygiad diwethaf.
Ond gallai'r defnydd o basys Covid gael eu hymestyn i "helpu i gadw" tafarndai a bwytai ar agor dros gyfnod y Nadolig.
"Os maen nhw eisiau gweld rhai o'r llefydd yma'n cadw ar agor, mae'n bosibl mai'r ffordd i wneud hynny yw trwy'r pasys."