'Amser newid rheolau ymweld ar ôl rhoi genedigaeth'

Mae nifer o gyrff sy'n ymgyrchu dros hawliau merched wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn galw am newid i'r cyfyngiadau ar ymwelwyr i unedau mamolaeth.

Dywed ymgyrchwyr eu bod yn barod i fynd i gyfraith.

Mae rheolau ymweld byrddau iechyd yn amrywio ond does yna ddim un bwrdd yng Nghymru yn caniatáu ymweliadau i wardiau mamolaeth am fwy na dwy awr y dydd.

Mae mamau angen cefnogaeth mewn cyfnod anodd, medd Eluned Glyn Williams, sydd newydd roi genedigaeth i Gruffydd.