Prifysgol Caerdydd: Dim swyddog Cymraeg llawn amser yn 'warthus'

Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn pwyso eto ar yr Undeb yno i greu swydd llawn amser i gynrychioli myfyrwyr Cymraeg eu hiaith.

Prifysgol Caerdydd bellach yw un o'r ychydig brifysgolion yng Nghymru sydd heb Swyddog Materion Cymraeg llawn amser, er mai hi yw'r fwyaf.

Annell Dyfri ydy Swyddog yr Iaith Gymraeg yno - swydd rhan amser - ar hyn o bryd. Mae hi wedi lansio deiseb ar-lein yn pwyso am newid.

Yn 2018 fe gafodd cynnig ei gymeradwyo a fyddai, ym marn y cynigwyr, wedi arwain at benodi swyddog llawn amser.

Ar y pryd, dywedodd Undeb Myfyrwyr y brifysgol mai galw ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr i ystyried creu'r swydd oedd y cynnig, a dim mwy na hynny.

Yn 2019 fe sefydlwyd gweithgor i edrych ar y sefyllfa, ond dywed Deio Owen, sy'n fyfyriwr yn y brifysgol, fod "dim wedi cael ei wneud am y peth eto".

Dywedodd wrth Dros Frecwast fod yr Undeb wedi defnyddio'r pandemig fel "esgus" i beidio gweithredu a'i bod hi'n "warthus" nad oes cynrychiolaeth i'r Gymraeg o fewn yr Undeb.

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi cael cais am sylw.